Parthau Datblygu Sgiliau

Mae caffael yng Nghymru’n newid ac yn datblygu’n barhaus i brynwyr a chyflenwyr fel ei gilydd. Gyda’r Ddeddf Caffael newydd yn dod i rym fis Hydref 2024, mae’n gyfnod o newid i bersonél caffael a chyflenwyr y sector cyhoeddus, a fydd angen meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y prif newidiadau.

Gyda nifer o ddeddfau eraill allweddol yn eu lle, gan gynnwys y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael, Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae llawer i’w ddysgu a’i roi ar waith i’r rhai sy’n gweithio o fewn caffael cyhoeddus ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd Procurex Cymru’n cynnwys 4 Parth Datblygu Sgiliau penodol ar y pynciau allweddol hyn, i ddylanwadu ar brynwyr a chyflenwyr sy’n gweithio yng nghymuned caffael cyhoeddus Cymru.

Bydd arbenigwyr yn darparu cyfres o gyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol ar amrywiaeth eang o bynciau, fel sicrhau effeithlonrwydd drwy ddefnyddio technolegau newydd a deallusrwydd artiffisial (AI), a dulliau caffael a chontractau sy’n arwain at well canlyniadau llesiant.

Mwy o fanylion ar sesiynau sy’n cael eu cadarnhau i ddod yn fuan.

 

Sustainability and Net Zero

Digital, Data & Technology

People and Skills

Supply Chain Innovation