PRIF DDIGWYDDIAD CAFFAEL CYHOEDDUS CYMRU 2025

Previous Next
Welsh Government Logo

4 Tachwedd 2025

Croeso i Procurex Cymru 2025

Cynhelir Procurex Cymru ar 4 Tachwedd yn Arena Utilita, Caerdydd, a dyma’r prif ddigwyddiad ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â llunio dyfodol caffael cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’n fwy na dim ond dyddiad yn y calendr, mae Procurex Cymru yn tynnu ynghyd y bobl, y syniadau a’r datblygiadau arloesol sy’n cymell cynnydd ar draws sector cyhoeddus Cymru, sy’n werth £8.32bn a mwy.

P’un a ydych chi eisoes yn darparu i’r sector cyhoeddus neu’n awyddus i ymuno â’r farchnad hanfodol hon, mae’r digwyddiad yn cynnig diwrnod penodol o rannu gwybodaeth, dealltwriaeth newydd a sgyrsiau ystyrlon gyda’r cynllunwyr, y penderfynwyr a’r dylanwadwyr sy’n arwain y ffordd.

Gyda rhaglen lawn dop o gynnwys arbenigol ac arddangosfa fywiog o atebion, mae Procurex Cymru yn rhoi cyfle i chi edrych ar ffyrdd newydd o weithio, mynd i’r afael â heriau cyffredin a helpu i adeiladu Cymru gryfach a mwy cynaliadwy.

I gyflenwyr — rhai sefydledig neu ddarpar gyflenwyr – mae’r pecynnau arddangos a noddi’n darparu llwyfan pwerus i ddangos arloesedd, i rannu atebion sy’n arbed costau ac i gysylltu’n uniongyrchol â chymuned caffael cyhoeddus Cymru.

Social Value and Net Zero

Skill Development Zone

Technology and Innovation

Skill Development Zone

SME
engagement

Skill Development Zone

Infrastructure

Skill Development Zone

Prif Ddigwyddiad Caffael Cyhoeddus Cymru

Yn Procurex Cymru, mae sgyrsiau ystyrlon yn siapio dyfodol caffael cyhoeddus. Gyda ffocws pendant ar wybodaeth dan arweiniad arbenigwyr a sesiynau siarad sy’n benodol i’r sector, mae’r digwyddiad yn gyfle prin i edrych ar ffyrdd newydd o feddwl, mynd i’r afael â heriau cyffredin, a meithrin perthnasau gwerthfawr â chyfoedion o bob rhan o farchnad y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt. P’un ai a ydych chi’n awyddus i gryfhau eich dealltwriaeth o flaenoriaethau caffael, arddangos atebion arloesol, neu ehangu eich rhwydwaith mewn amgylchedd cydweithredol â ffocws pendant – mae Procurex Cymru wedi’i ddylunio i sbarduno syniadau a chreu cysylltiadau sy’n para.

2024 Siaradwyr

Partneriaid y Digwyddiad

Previous Next

Geirda