Parth Busnesau Bach Procurex Cymru
Gydag amcangyfrif o 250,000+ o fusnesau bach yn gweithredu yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach, a lleihau’r rhwystrau rhag gwerthu i’r sector cyhoeddus.
A ydych chi’n fusnes bach sydd am adeiladu perthynas â’r sector cyhoeddus yng Nghymru?
A ydych chi am gael pwynt pris mynediad fforddiadwy i arddangos eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth?
Mae Parth Busnesau Bach Procurex Cymru wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer busnesau bach, gan roi cyfle i sefydliadau arddangos eu cynnyrch neu eu gwasanaethau i gymuned caffael Cymru.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael – os yw eich sefydliad yn fusnes bach sydd am weithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru, cysylltwch â’r tîm heddiw i drafod y pecynnau a’r prisiau sydd ar gael.