Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru

Ewch i Bafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn Procurex Cymru 2024, lle bydd Llywodraeth Cymru a sefydliadau caffael blaenllaw yn dod at ei gilydd unwaith eto mewn ardal bwrpasol yng nghalon yr arddangosfa.

Bydd Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn gyfle i brynwyr a chyflenwyr fframwaith, y rhai sy’n bodoli eisoes a’r rhai sy’n gobeithio ymuno, ymgysylltu â’r rheini sy’n datblygu polisïau ac yn creu contractau fframwaith o fewn sectorau ac yn genedlaethol. Dyma gyfle penigamp i brynwyr a chyflenwyr ddeall pa fframweithiau mae modd ymuno â nhw a phrynu ganddynt.

Dewch i gwrdd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, GwerthwchiGymru a Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gaffael ledled Cymru.