Lleoliad ac Amseroedd
Amseroedd Agor: 0900 – 1600
Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghoed Coldra, Casnewydd, De Cymru, NP18 1HQ.
Cyrraedd yma
Mae’n hawdd cyrraedd ICC Cymru. Mae wedi’i adeiladu o fewn coetir trawiadol, dafliad carreg o’r M4.
Mae’r mannau parcio pwrpasol ar gyfer cerbydau cynhyrchu ac arddangosfeydd yn darparu mannau llwytho uniongyrchol i’r brif neuadd a’r awditoriwm, gyda digon o lefydd parcio.
Yn ogystal, mae mwy na 2,000 o lefydd parcio i ymwelwyr ar y safle, gyda 700 o lefydd ar lefelau -1 a -2.
Prisiau Parcio
0 – 1 awr Am ddim
1 – 5 awr £6
5 – 8 awr £10
8 – 12 awr £14
12 – 24 awr £24
Mae gwasanaethau Bws Casnewydd yn teithio ar hyd a gerllaw Heol Cas-gwent, ac mae’r safle bws agosaf bum munud ar droed o ICC Cymru.
Mae gan ICC Cymru 20 o raciau beiciau, gyda mynediad uniongyrchol i atriwm y Ganolfan Gynadledda.
Mae pedwar llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghasnewydd, yn ogystal â llwybr beicio sy’n cysylltu’r ddinas â Chaerdydd. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd.
Yn ogystal â bod ar safle Gwesty’r Celtic Manor, mae ICC Cymru mewn lleoliad cyfleus a chwta 10 munud wrth gerdded i westai cyfagos, gan gynnwys yr Holiday Inn, Premier Inn a Gwesty Coldra Court ger Celtic Manor.
Dim ond 12 munud o daith o Orsaf Drenau Casnewydd yw ICC Cymru.
Gall cynrychiolwyr fanteisio ar gyfraddau arbennig os ydynt yn teithio ar drên i Gasnewydd gyda Great Western Railway.
Enghraifft o Docyn Dwyffordd Safonol (Llundain Paddington – Casnewydd) – £42 y pen
Enghraifft o Docyn Dwyffordd Dosbarth Cyntaf (Llundain Paddington – Casnewydd) – £86 y pen
Cofiwch mai dim ond os oes gennych chi brawf eich bod yn bresennol yn y digwyddiad y bydd y tocynnau trên hyn yn ddilys. Mae modd archebu tocynnau hyd at 3 mis ymlaen llaw, yn amodol ar argaeledd, a thrwy brynu un tocyn ar y tro.
Mae gan ICC Cymru gysylltiadau da â meysydd awyr.
Amser a gymerir mewn car o feysydd awyr i ICC Cymru:
Caerdydd – 40 munud
Bryste – 40 munud
Birmingham – 1 awr 30 munud
Heathrow – 1 awr 45 munud
Manceinion – 3 awr 15 munud