Partneriaid y Digwyddiad
Rydym yn falch o fod yn gweithio unwaith eto gyda’r sefydliadau blaenllaw canlynol sy’n bartneriaid Procurex Cymru.
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Dan arweiniad y Prif Weinidog, mae’r llywodraeth yn gweithio ar draws meysydd datganoledig sy’n cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus fel iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol o ansawdd uchel i GIG Cymru.
Busnes Cymru
Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol wedi’i ariannu’n llawn i gefnogi pobl yng Nghymru sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnesau.
GwerthwchiGymru
Mae gwefan newydd GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma bwy rydym yn ceisio helpu; - busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ledled Cymru - prynwyr yn y sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro - busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau - busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd am gontractau
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Prif ddibenion y gymdeithas yw hyrwyddo gwell llywodraeth leol, hyrwyddo ei henw da a chefnogi awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.
Gwasanaeth Masnachol y Goron
Mae gan bob penderfyniad prynu y byddwch chi’n ei wneud y pŵer i helpu Cymru i ailgodi’n gryfach, yn decach ac yn fwy gwyrdd. Gwasanaeth Masnachol y Goron yw sefydliad caffael cyhoeddus mwyaf y DU. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd masnachol i helpu prynwyr yn y llywodraeth ganolog ac ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i brynu popeth, gan gynnwys meddygon locwm, gliniaduron, ceir heddlu a thrydan. Mae ein partneriaethau strategol â sefydliadau ledled Cymru yn sicrhau ein bod ni’n cydweithio’n effeithiol er budd ein cwsmeriaid yng Nghymru
Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae tîm Cynnal Busnes ym maes Amddiffyn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn hwyluso mynediad busnesau arloesol ac anhraddodiadol newydd at y gadwyn gyflenwi amddiffyn. Mae’r tîm yn rhoi cyngor ac arweiniad i gwmnïau ar sut i ddod yn gyflenwr amddiffyn a chael gafael ar gyfleoedd tendro a chontractio’r Weinyddiaeth Amddiffyn drwy amrywiaeth o sianeli: – Cyfleuster desg gymorth -Presenoldeb mewn arddangosfeydd masnach ledled y DU lle byddant yn rhoi cyflwyniadau ar gais -Gweminarau -Rhoi cyhoeddusrwydd i wahanol ffynonellau o wybodaeth ddefnyddiol drwy’r porth cyflenwyr a gynhelir ar Defence Contracts Online ac ar eu cyfrif Twitter @defenceproc
WRAP
WRAP yw un o’r prif elusennau cynaliadwyedd yn y byd. Rydym yn gweithio gyda busnesau, llywodraethau, dinasyddion ac elusennau yn y DU i wneud y blaned yn lle iachach a mwy diogel. Yng Nghymru, mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi cyrff cyhoeddus i wreiddio caffael cynaliadwy er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cadarnhaol, ac er mwyn sicrhau’r cyfraniadau mwyaf posibl at Nodau Llesiant Cymru.
Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS)
CIPS, y sefydliad aelodaeth byd-eang ar gyfer caffael a chyflenwi. Gyda 60,000 o aelodau ar draws 156 o wledydd a swyddfeydd ledled y byd, rydym yn adeiladu rhwydwaith byd-eang i bweru ein proffesiwn. Rydym yn arwain ym maes addysg a hyfforddiant. Rydym yn darparu gwybodaeth ac offer. Ymhellach, rydym yn helpu i feithrin gallu mewn sefydliadau. Drwy ein holl waith, ni yw’r llais a’r safon.
Supply2Gov
Yn Supply2Gov, mae gennym ni un nod – sef sicrhau bod twf busnes yn symlach i fasnachwyr unigol, microfusnesau a busnesau bach. Wedi’i bweru gan gronfa ddata fwyaf y DU a Gweriniaeth Iwerddon o hysbysiadau a gwobrau contract y sector cyhoeddus, ynghyd â’n hysbysiadau e-bost dyddiol sy’n cael eu hanfon yn syth i’ch blwch derbyn, rydym wedi’i gwneud mor hawdd â phosibl i chi ddod o hyd i gyfleoedd perthnasol cyn gynted ag y byddant ar gael – gan roi mwy o amser i chi ganolbwyntio ar roi eich cynigion at ei gilydd a thyfu eich busnes. Gallwch chi gofrestru ar gyfer ardal leol o’ch dewis chi’n rhad ac am ddim neu fanteisio ar ein dewisiadau talu misol hyblyg – gan roi dewis gwasanaeth hysbysiadau contract di-risg, graddadwy a chost-effeithiol i chi.
Tracker
Tracker yw’r unig ddatrysiad datblygu busnes o’r dechrau i’r diwedd gyda’r wybodaeth unigryw sydd ei hangen arnoch chi i ddod o hyd i fusnesau, gwneud cynnig amdanynt a’u hennill. Drwy wneud defnydd o gronfa ddata fwyaf Ewrop o gyfleoedd a gwybodaeth am gystadleuwyr – gallwch chi ymgysylltu’n gynharach i werthu’n fwy effeithiol ac ennill mwy o fusnes. Yn ogystal, mae Tracker yn well byth erbyn hyn – gallwch chi nawr uwchlwytho dogfennau cyfle hefyd a rheoli eich ymatebion bidio i gyd yn yr un lle. Canolbwyntio ar ennill busnes – yn hytrach na chwilio amdano.
Caffael PASS
Mae ymgynghorwyr caffael PASS yn cyflwyno mewn mwy na chant o gynadleddau a digwyddiadau bob blwyddyn, yn ogystal â darparu ymgynghoriaeth a hyfforddiant mewnol i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae ein sesiynau hyfforddi wedi’u paratoi i ymdrin â gofynion cyfreithiol caffael cyhoeddus mewn modd cyffredinol, gan ddefnyddio enghreifftiau bywyd go iawn i helpu i symleiddio’r rheolau. Mae miloedd o sefydliadau, rhai cyhoeddus a phreifat, eisoes wedi elwa o ddigwyddiadau a chyngor tendro/caffael arferion gorau PASS. P’un a ydych chi’n gweithio ym maes caffael yn y sector cyhoeddus neu’n tendro am gontractau sector cyhoeddus, gall PASS eich helpu chi i wella eich effeithlonrwydd a’ch effeithiolrwydd.